Deriodyn
Tom and John Evans
Saif Deriodyn ar lwybr ‘Sarn Helen’, sef y ffordd Rufeinig a arferai gysylltu Aberconwy a Chaerfyrddin. Mae gweddillion caer fach a baddondy Rhufeinig yn Llanio, ychydig filltiroedd i gyfeiriad y de o’r fferm.
Dechreuodd dad-cu Tom a John Evans ffermio yno ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Heddiw, mae’r brodyr yn cadw praidd o ryw 1000 o famogiaid penfrith Beulah ar ryw 450 erw o borfa fynydd tonnog.
Mae ganddynt hefyd yr o 90 o fuchod sugno.